

Cwrs Tabledi a Ffonau Clyfar i Ddechreuwyr
Mae'r cwrs (AM DDIM) hwn wedi'i gynllunio ar gyfer y rhai sydd eisiau gwella eu sgiliau ar ddyfeisiau digidol fel tabledi, iPads neu ffonau clyfar.
Bydd cynnwys y cwrs yn cwmpasu:
-
Cyflwyniad i'r rhyngrwyd
-
Hanfodion E-bost
-
Llenwi ffurflenni ar-lein
-
Diogelwch rhyngrwyd
-
Siopa ar-lein
-
Negeseuon
-
Safleoedd ffrydio
-
Fideo-gynadledda
-
Deallusrwydd artiffisial.
Gallwch ddod â'ch dyfais eich hun neu gallwn ddarparu un i'w ddefnyddio yn ystod y dosbarth.
Cynhelir y cwrs unwaith yr wythnos yn Llyfrgell Biwmares. Bydd yn ailgychwyn ar ddechrau'r flwyddyn ysgol/coleg newydd ym mis Medi. Fe'i cynhelir gan Grŵp Coleg Llandrillo Menai.
Os oes gennych ddiddordeb mewn cael gwybod mwy am y cwrs, cysylltwch â Chynllun Tro Da Seiriol ar (01248) 305014.
Sesiynau “Paned a Sgwrsio” i Ddysgwyr Cymraeg
yn Ardal Seiriol
Dewch i ymuno â sesiwn “paned a sgwrs” cyfeillgar a chroesawgar yn ardal Seiriol.
Cynhelir o leiaf tair sesiwn bob wythnos. Mae’n gyfle gwych i ddod i ymarfer eich Cymraeg gyda dysgwyr eraill a Chymry Cymraeg. Agored i bawb: croeso i bawb o ddechreuwyr pur i ddysgwyr uwch!
Neuadd Bentref Llanddona Dydd Mawrth 13:30 - 15:00
Neuadd Blwyf Llandegfan Dydd Iau 10:00 - 11:30
Canolfan Hamdden Biwmares Dydd Gwener 11:30 - 12:30
