top of page
4627847000.jpg

Croeso i Gynghrair Seiriol

Mae Cynghrair Seiriol yn elusen gofrestredig (Rhif Elusen 1192222) ac wedi ei sefydlu fel Sefydliad Corfforedig Elusennol. Mae’n cefnogi unigolion, teuluoedd, cymunedau a sefydliadau o fewn Ward Seiriol.

 

Mae Ward Etholiadol Seiriol yn cynnwys cymunedau Biwmares, Llanddona, Llandegfan, Llanfaes, Llangoed, Llansadwrn, Penmon, a'r ardaloedd cyfagos.

​

Sefydlwyd y Gynghrair gan aelodau o'r gymuned yn gweithio gyda'i gilydd gyda chefnogaeth cynrychiolwyr o'r sectorau cyhoeddus a gwirfoddol. Trwy gydweithio fel cynghrair, mae'n gobeithio mynd i'r afael â blaenoriaethau lleol a chyfrannu at welliannau yn yr ardal.

​

Amcan elusennol Cynghrair Seiriol yw:

​

Datblygu gallu a sgiliau aelodau o gymuned Seiriol a’r cyffiniau sydd o dan anfantais yn gymdeithasol, yn economaidd neu fel arall, fel bod modd adnabod a diwallu eu hanghenion yn fwy effeithiol a’u galluogi i gyfranogi’n llawnach mewn cymdeithas.

​

Mae’r Gynghrair wedi blaenoriaethu’r heriau pwysig canlynol sy’n wynebu ardal Seiriol:

​

• Cludiant

• Iechyd a Lles

• Cyfathrebu a Rhannu Gwybodaeth

• Gweithgareddau Cymunedol

• Tai a Chyflogaeth

• Amgylchedd

4627847004.png

Ward Seiriol

Ynys Mon

Mae’r Gynghrair yn rhedeg Cynllun Tro Da Seiriol, Bws Mini Cymunedol Seiriol, ac yn gweithio’n agos gyda hybiau cymunedol a phrosiectau eraill gan gynnwys Cwlwm Seiriol. Cliciwch ar yr eiconau isod i weld mwy o fanylion.

 

Mae Cynghrair Seiriol yn croesawu unrhyw syniadau, cyfraniadau, a sylwadau. Manylion cyswllt:

​

E-bost:          ctdseiriolgts@gmail.com

 

Ffôn:              (01248) 811 200

​

Postio:          Cynghrair Seiriol Alliance

                        Canolfan Biwmares

                        Rating Row

                        Biwmares

                        LL58 8AL

bottom of page